Defnyddiwch Audience Finder Offer Data i feincnodi data eich cynulleidfa yn erbyn eich poblogaeth leol a sefydliadau eraill yn eich sector.
Croeso i Audience Finder Cymru
Mae arolygon a gwybodaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg ar gael i bob defnyddiwr yng Nghymru.
Archwilio offer mapio er mwyn adnabod ardaloedd ble mae posibilrwydd o dwf er mwyn targedu eich marchnata sydd uwchlaw’r llinell
Gweld cyrhaeddiad gwirioneddol eich sefydliad yn erbyn cyfeiriadur cartref diweddara Experian®
Defnyddio meincnodau lefel sector er mwyn cymharu â deall eich darn chi o’r diwylliant
Cyfrannu at y darlun ehangach o ddata cenedlaethol, a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adfocatiaeth ddiwylliannol
Darparu tystiolaeth o ddemograffeg eich cynulleidfa i gyllidwyr, ymddiriedolaethau a sylfaenwyr
Gosod proffil i arferion diwylliannol eich cynulleidfa drwy ddefnyddio Audience Spectrum a Mosaic
BETH YW AUDIENCE FINDER OFFER DATA?
Audience Finder Gwreiddiol
Y ffordd hanfodol o ddechrau deall eich cynulleidfaoedd. Audience Finder Gwreiddiol yw unig adnodd datblygu cynulleidfaoedd y sector celfyddydau a diwylliant sy’n rhad ac am ddim, yn genedlaethol ac yn wirioneddol seiliedig ar ddata. Mae ein technoleg, ein hymchwil a’n harbenigedd yn galluogi sefydliadau i ddeall, cymharu a defnyddio gwybodaeth am gynulleidfaoedd yn hawdd er mwyn meithrin gwytnwch a pherthnasoedd cryf a pharhaol â chynulleidfaoedd.
Audience Finder Atebion
Y genhedlaeth nesaf o wybodaeth am gynulleidfaoedd ar gyfer y sector diwylliannol yng Nghymru. Rydym wedi bod yn siarad llawer â’n defnyddwyr yn ddiweddar. Fe wnaethom ofyn ar gyfer beth rydych chi wir angen eich data cynulleidfa, a beth sy’n eich rhwystro chi rhag cael y gorau ohono. Eich atebion oedd Audience Finder Atebion: yr adnodd mewnwelediad newydd, wedi’i gynllunio i’w gwneud yn hawdd i chi ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch fwyaf a’i defnyddio’n effeithiol i gyflawni nodau eich cynulleidfa. Mae Audience Finder Atebion yn llwyfan Cymraeg a Saesneg sy’n cynnwys offer sydd wedi’u creu’n benodol ar gyfer ein defnyddwyr yng Nghymru, fel dadansoddiad o’ch cynulleidfaoedd yn erbyn Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.
Audience Finder Sioe’r Stats
Y platfform gwybodaeth chwyldroadol ar gyfer sefydliadau teithiol a lleoliadau sy’n defnyddio tocynnau. Mae Sioe’r Stats yn adnodd chwyldroadol i ddeall cynulleidfaoedd sy’n caniatáu i gwmnïau a sefydliadau teithiol weld eu cynulleidfaoedd fesul perfformiad, ar draws taith lawn, tymor neu mewn grwpiau personol o’u dewis. Mae Audience Finder Sioe’r Stats yn darparu gwybodaeth werthfawr i greu’r cynlluniau marchnata integredig cryfaf posibl neu i greu achosion effeithiol ar gyfer cyllid a gwaith partneriaeth.
Audience Finder Mwy
Ewch â’ch taith data ymhellach gyda’n hamrywiaeth o wasanaethau wedi’u teilwra. Dan nawdd ein cyllidwyr, bydd yr ystod hon o adnoddau a gwasanaethau hynod fforddiadwy yn eich helpu i gael mwy o fudd o ddefnyddio Audience Finder. Mae pob un o’r gwasanaethau hyn, a ddatblygwyd gyda’n defnyddwyr, yn helpu i deilwra’r adnodd Audience Finder i ddiwallu anghenion mwy penodol.
Audience Finder Cymuned
Byddwch yn rhan o gymuned defnyddwyr data celfyddydau, diwylliant a threftadaeth fwyaf y DU. Audience Finder Cymuned yw’r lle i ddod o hyd i’r adnoddau sydd eu hangen arnoch i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar yr adnoddau a’r gwasanaethau sydd ar gael, ac mae’n cynnig lle i ryngweithio â defnyddwyr eraill a gweithwyr proffesiynol o’r un anian ym maes y celfyddydau.
Audience Finder Sbectrwm
Yr adnodd segmentu mwyaf pwerus ar gyfer y sector diwylliannol. Mae Audience Spectrum yn segmentu o boblogaeth gyfan y DU yn ôl eu hagweddau at ddiwylliant, ac yn ôl yr hyn maen nhw’n hoffi ei weld a’i wneud. Mae 10 proffil gwahanol y gallwch chi eu defnyddio i ddeall pwy sy’n byw yn eich ardal leol, pwy yw eich cynulleidfaoedd presennol, a beth allech chi ei wneud i adeiladu rhai newydd. Audience Spectrum yw’r adnodd mwyaf cywir y mae’r sector erioed wedi’i gael i helpu i dargedu cynulleidfaoedd ac i gynnwys cyhoedd ehangach.
DIM COSTAU CUDD, DYMA BETH SY’N GYNWYSEDIG AM DDIM
- Llwyfan ddwyieithog Audience Finder, ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg
- Echdynnu data awtomataidd o system docynnau cydnaws am ddim
- Arolwg cenedlaethol safonedig am ddim, gyda’ch dewis o fethodoleg
- Mynediad i gyfres o offer dangosfwrdd ddefnyddiol er mwyn dadansoddi’ch data
- Cymorth gan dîm cefnogi cyfeillgar sydd ar gael o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 10yb-6yh (yn Saesneg)
- Cefnogaeth cyfrwng Cymraeg ar gael, lleiafswm 2 ddiwrnod yr wythnos
- Mynediad 24/7 i fforwm gwybodaeth a fforwm cymunedol ar-lein dwyieithog
- Hyfforddiant a digwyddiadau i’r cymuded defnyddwyr drwy Gymru gyfan
GDPR a Diogelwch Data
Darganfyddwch sut yr ydym ni’n casglu, prosesu,
defnyddio a chadw’ch data yn ddiogel.
YN BAROD I DDECHRAU?
Byddwn ni gyda chi bob cam o’r ffordd
Rydym bellach ar fwrdd sefydliadau â thocynnau, sefydliadau teithiol a phob sefydliad sy’n dymuno defnyddio’r arolwg safonedig cenedlaethol, sy’n addas ar gyfer sefydliadau tocyn a heb docyn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’n tîm cefnogi drwy e-bostio support@theaudienceagency.org neu ffonio 0207 260 2505.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn elusen annibynnol, sefydlwyd yn 1994 gan y Siarter Frenhinol. Ni yw’r corff sy’n ariannu a datblygu’r celfyddydau yng Nghymru.
Rydym yn helpu pobl i greu, cyflwyno ac arddangos y celfyddydau. Rydym yn gweithio gydag artistiaid a sefydliadau er mwyn cyrraedd cymaint o bobl ag sy’n bosib, rydym yn ymchwilio’r ffyrdd yr ydym yn gallu amddiffyn a chynnal gweithgareddau creadigol yng Nghymru. Rydym yn uchelgeisiol am y celfyddydau yng Nghymru, ac ein strategaeth yw adeiladu lle ble rydym yn gallu darganfod, meithrin a rhannu’r dalent gorau. Mae ein partneriaid yn cynnwys awdurdodau lleol, dosbarthwyr loteri eraill, darlledwyr, ysgolion a cholegau.
Mae’r Audience Agency yn elusen dan arweiniad cenhadaeth: ein pwrpas yw galluogi sefydliadau diwylliannol i ddefnyddio’n data cenedlaethol er mwyn cynyddu eu perthnasedd, cyrhaeddiad a gwydnwch.
Rydym yn credu bod y celfyddydau a diwylliant gyda’r pŵer i wella ansawdd bywyd pobl, i greu ystyr a chymuned, i hyrwyddo empathi a dysgu. Po fwyaf o ddinasyddion sy’n ymwneud â siapio diwylliant a chymryd rhan, y mwyaf yw’r pŵer. Ein cenhadaeth yw darparu llais i’r cyhoedd wrth siapio diwylliant bywiog a pherthnasol.